Carreg Sgimio
Dwi ddim yn cofio pryd newidiaist ti’r tro cyntaf, ond dwi’n cofio iddo ddigwydd yn sydyn - bron dros nos. Fel haul yn mynd dan gwmwl, roeddet ti’n oriog o dlws. Yn dywyll ac oer un funud, yna’n pefrio a dallu. Tywallt dy gynhesrwydd dros bawb a ddeuai ar dy draws ac yna’n diffodd heb rybudd o fath yn byd. Nid fod newid yn beth drwg bob amser. Gallwn ddygymod â’r annisgwyl rŵan ac yn y man.
Ond pan newidiaist ti’n ôl i’r fel yr oeddet ti cynt, chwarae mig fel carreg sgimio ar wyneb llyn - nawr ti 'ngweld i nawr ti ddim - fe suddodd fy nghalon. Mynd ar goll am sbel ac yna’n ail ymddangos fel tasa dim byd wedi digwydd, a thithau’n disgwyl i bawb arall fihafio yn union yr un fath ag yr oedden ni cynt. Disgwyl yr amhosibl. Ond fedrwn ni’m mynd yn ôl i’r un hen le yn union. Neb ohonan ni. Byth.
Ond cofia hyn: prin gyffwrdd arwyneb y llyn wna’r garreg sgimio bob tro, cyn plymio i’r gwaelod. O’n golwg.
Cefin Roberts
Gwasgedd
Byd tywyll yw byd y morfil. Mae'n nofio yn y gwyll islaw ble mae golau'r haul yn cyrraedd, ond mor wahanol yw ei synhwyrau i'n rhai ni nad ydyw'n gweld y diffyg goleuni yn nam. Yn wir, mae ganddo ddelwedd berffaith o siâp y tirwedd tanfor, a phopeth sy'n byw ac yn symud yno, oherwydd ei alluoedd ecoleoli anhygoel. Byd bach yw'n planed i'r morfil, gall groesi ac ail-groesi'r cefnforoedd ddegau o weithiau yn ei fywyd, ac mae'n adnabod llwybrau ymfudo ei gyndeidiau gystal ag yr ydan ni'n adnabod llwybr yr ardd. Mae'r gwasgedd ar wely'r môr yn aruthrol; petaem ni'n plymio i'r dyfnderoedd hyn, byddai ein gwythiennau'n cau a'n calonnau'n methu, ond mae'r morfil yn ddigon cyffyrddus yn y twyllwch dwys, diderfyn. Fel bod o fyd arall, mae'n symud yn osgeiddig yn ei elfen, yn gwisgo'i anferthedd yn ysgafn. Er mor gyffyrddus ydi'r morfil yn y gwaelodion tywyll, er mor wahanol i ni mewn cymaint o ffyrdd, mae'n rhaid iddo frigo i'r wyneb i anadlu, ac mae'r fam yn geni ei morfil bach, ac yn ei fwydo, fel unrhyw famal arall, ar lefrith.
Mae sgyrsiau morfilod yn gallu rhychwantu cannoedd o filltiroedd, ac maent yn siarad gwahanol ieithoedd yn dibynnu ar ba ran o'r môr maen nhw'n byw ynddo. Maen nhw'n canu er mwyn canfod lle maen nhw, er mwyn dod o hyd i fwyd, ac mae'r gwrywod yn canu caneuon sy'n cael eu hailadrodd drosodd a throsodd fel cytgan i swyno'r morfilesau. Ond mae'r môr wedi mynd yn lle mor swnllyd yn ddiweddar, efo llongau a sonar milwrol a phrofion bomiau, nes bod y morfilod yn cael trafferth clywed ei gilydd. Yn 1940, roedd morfilod glas yn gallu cyfathrebu dros fil o filltiroedd, ond heddiw dim ond dros gan milltir y gallant glywed ei gilydd. Gan fod morfilod glas yn byw i fod yn naw deg oed, mae'n debyg bod morfilod yn bod heddiw sy'n cofio sut yr oedd hi pan oedd y môr yn dawel. Efallai y bydd morfilod y dyfodol yn edrych yn ôl ar y cyfnod yma ac yn gofyn i'w gilydd, 'i ble'r aeth yr holl sŵn?'
Seran Dolma
Llechan las
Er bod yr haul wedi ei osod mewn caets tu ôl i frigau’r coed ac yn suddo i’r pridd ar y gorwel mae ei wres o o gwmpas o hyd. Yn y llechi mae o wedi hel fwyaf. Fel sbwnj gwlyb mae nhw’n gyforiog o gnesrwydd a gwerth diwrnod cyfa o olau a gwres wedi cronni ym mhant eu düwch nhw.
‘Ty’d yma.’
Medda hi. Mae yna le i un arall ar garreg y drws, ar y stepan ucha. Does dim isio poeni am boetsio, fe sgwriwyd hon cyn naw fel pob diwrnod arall a’r dŵr wedyn yn cael fflich ar y concrit o flaen tŷ. Roedd mwy o le i faw yn fanno.
Mi oedd yn rhaid cadw trefn a doedd y tŷ ddim yn gorffan wrth y drws, ond yn hytrach rhyw droedfedd y tu draw iddo fo. Ymhellach wedyn roedd yn rhaid chwynnu, a brwsio, ond mi oedd y garrag hon yn cael y mop.
Fedrai’m cofio os buodd na sgwrs, nac am faint y buon ni’n dau yno. Dim ond cofio hi’n oeri, a’r awyr a’r garrag yn dod yr un lliw yn union. Ond mi oedd y gwres i’w deimlo o hyd wrth i ni godi a mynd i hwylio panad. Ond os bu sgwrs, a chwerthin, efallai ei fod o wedi ei sugno i’r llechan fel gwres yr haul a’i ddal yno, am byth.
‘Ty’d, peils gawn ni.’
Am y tŷ.
Mi allwn fynd ac ista eto, mae’r garrag yn dal o flaen y drws. Ond dwi’n poeni braidd. Poeni nad ydi hi wedi gweld mop ers blynyddoedd. Poeni nad oes yna gymaint o gerddad arni hi ag y buodd. Poeni, taswn i’n rhoi fy nghlust arni hi i wrando y baswn i’n ei chael hi’n oer.
Llyr Titus
Llechu
Cerddodd y ddau ar hyd y traeth, yn agos, agos at y môr; roedd rhaid neidio o’r ffordd bob hyn a hyn, rhag gwlychu eu traed, gan chwerthin wedyn wrth i don annisgwyl gyffwrdd gwaelod eu trowsusau.
‘Sbia’, meddai hi’n sydyn, ‘weli di o? Yn fan’na, yn llechu dan y tywod?’ Edrychodd y ddau i’r dŵr, a gweld rhywbeth yn sgleinio am eiliad cyn i’r don olchi’r tywod drosto eto. ‘Pysgodyn ydi o?’
‘Ia, lledan.’
Brasgamodd i’r dŵr a gwthio’n ofalus efo blaen ei droed; cynhyrfodd y graean wedi’r ymyrraeth, wrth i’r creadur wingo a chloddio, cyn diflannu’n is dan y tywod.
‘Rhyfadd’, meddai hi, ‘bod o’n dal i guddio, yn lle dianc.’
‘Efallai’i fod o’n disgwyl am rwbath.’
Eleri Cwyfan
Portsh Tŷ Wil
Mae capeli'n codi crîps arna'i. Wastad wedi. Doedd Capel Nant ddim yn gapel erbyn hynny hyd yn oed: tŷ newydd Wil oedd o, a finnau wedi deud y baswn i'n helpu hefo'r gwaith. A'r peth cynta feddyliais i wrth fynd i fewn oedd y basa isio mwy na phaent i gael gwared o'r ogla capel.
Mae'n siŵr 'mod i wedi cael hunllef hefo ogla capel rhywbryd, a'i fod yn dal ei afael arna'i, er na fedra'i gofio'r freuddwyd.
Roedd staen ar un o lechi'r portsh, a sbïais arno am hir, yn methu gwneud dim, fy meddwl yn crebachu a chwyddo'r un pryd, nes i mi feddwl 'mod i'n mynd o 'ngho. Er nad o'n i'n medru meddwl llawer, dyma fi'n dod i wybod rhywsut nad staen oedd o, ond rhyw farc yn y llechen ei hun, a bod hynny'n rhywbeth pwysig ofnadwy.
Ac yn fwya' sydyn, dyma'r blincin' llechen yn fflïo a'm hitio reit ar fy nhalcen, gan ddangos - wir i chi - ddinistr y byd i mi.
Pan ddaeth Wil i fewn hefo'r dystshîts, roeddwn i'n fflat fel lledan ar lawr. Wrth dod ataf fy hun, sbïais ar y llechen eto. Doedd hi heb symud dim. Y growt yn sownd o'i chwmpas hi.
'Be' ti'n weld yn y llechen 'na, Wil?' a Wil yn sbïo arna'i fel taswn i'n dŵ-lal. Ond hanner caeodd ei lygaid, chwarae teg, jest i 'mhlesio fi.
'Wn i'm...' Symudodd ei ben ar un ochr. 'Blydi hel - gwynab Princess Di!'
Ruth Richards
Y Llyfn a'r Garw
‘Tyd i mewn!’
Gwyrddlas ei llais yn gwahodd, yn fy arwain i mewn i’r hollt yn y graig, i’r ogof. Llif afon oedd o, yn fy nhynnu ymlaen, ymlaen, a gadael yr ardd a’r adar, a’r byd tu ôl i mi.
Gwneud jigsô roedd hi, neu dyna feddyliais i ddechra’. Ac wedyn o fentro yn nes, sylwi mai gwneud llun efo’r gwahanol dabledi da-da lliwgar o’i blaen ar y bwrdd roedd hi.
Er bod tonnau’r blynyddoedd wedi naddu ei rychau ar ei hwyneb, roedd yna gilfachau llyfn, braf hefyd, a’i gwegil wrth blygu 'mlaen fel gwegil hogan ifanc.
‘Sbia!’ medda hi, yn ei llais sgleinio-ar-ddŵr. ‘Sbia del!’
Dim ond un ohonan ni oedd yn gweld y cymylau yn ffurfio’i gleisiau ar wyneb y môr.
Mared Lewis