Cynhyrchu Ffilm & Fideo

Charlie Wells

Cabbie

Rhaglen ddogfen fer am yrrwr tacsi yw Cabbie. Cafodd ei rhoi ar restr fer gwobrau'r Gymdeithas Deledu Frenhinol yn Sefydliad Ffilmiau Prydain am y Ffilm Fer Orau, y Gwaith Camera Gorau a'r Golygu Gorau yn 2018 ac mae wedi cael ei sgrinio'n eang mewn gwyliau ffilmiau.

Gehad Ibrahim

The Llangollen Eisteddfod Sends A Message of Peace to All

Cyfres o ffilmiau yw Send a Message a wnaed am broject cynhwysiant Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Enillodd y project wobr Scottish Power am broject cynhwysiant gorau, 2018.

Marina Ivanychev

Oregu

Testun y rhaglen ddogfen farddonol 'OREGU' yw taith ffisegol ac ysbrydol Olegs Regzdins, a ymgollodd yn llwyr yn niwylliant Siapan ac a roes ei fywyd i ddysgu'r crefftau ymladd a'u mireinio. Cyfrinair y fideo yw kimono.

Rory Farmer

Blue Milk

 Comedi fer yw Blue Milk sy'n dilyn asiant teithio sy'n meddu ar bŵer anarferol. Enillodd Blue Milk wobr y ffug raglen ddogfen orau yng Ngŵyl Ffilmiau Austin Comedy, Unol Daleithiau America, 2018. Hyd yma, mae Rory wedi bod yn gwneud ac yn saethu ei ymdrechion ei hun, gan gynnwys micro-gomedi fer 'Storm in a Teacup' (2017) a ddangoswyd yn y Fresh Student Media Festival 2017 a Gŵyl Gyfryngau Myfyrwyr Bangor. 

Matt Melling

Life on a Thread 

Mae Life on a Thread yn dilyn y paragleider Brad Nicholas wrth iddo hedfan uwchlaw tirwedd fynyddig gogledd Cymru. Cafodd y ffilm ei dangos mewn nifer o wyliau ffilm yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Ar sail y ffilm honno, cafodd Matt ei ddewis ar gyfer gweithdy Banff Adventure Filmmakers yng Nghanada ac yntau'n dal yn fyfyriwr.