Croeso i dudalennau gwe Bangor Creadigol
Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau sy'n cwmpasu'r diwydiannau creadigol yn eu holl agweddau.
Mae gennym bortffolio amrywiol o feysydd pwnc ac iddynt un nod cyffredin sef darparu amgylchedd dysgu ysgogol, cefnogol ac ysbrydoledig i'n myfyrwyr. Mae addysgu o ansawdd uchel yn seiliedig ar brofiad ymarferol a pharatoi ar gyfer cyflogaeth at y dyfodol.
Yn y tudalennau yma rydym wedi casglu ynghyd enghreifftiau o weithiau creadigol gan fyfyrwyr Cerddoriaeth, y Cyfryngau, Ysgrifennu Creadigol a Theatr a Pherfformio.
Yma, gallwch bori trwy waith creadigol ein myfyrwyr a gweld, o lygad y ffynnon, enghreifftiau o'r isod:
- Animeiddio
- eYsgrifennu
- Perfformiadau Dramatig
- Cyfansoddiadau a Pherfformiadau Cerddorol
- Rhyddiaith a Barddoniaeth
- Rhaglenni radio
- Sgriptiau Teledu a Ffilm
- Fideos