Radio Programmes

Finnian Shardlow

Culture My Arts 

Gwrandewch nawr

Graddiodd Finnian â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn Astudiaethau'r Cyfryngau yn 2018, yn ogystal â nifer o weithgareddau allgyrsiol, gan gynnwys swydd rheolwr rhaglenni gorsaf radio myfyrwyr arobryn y brifysgol, Storm FM. Mae bellach yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Ysgrifennu Proffesiynol ac ef yw golygydd papur newydd myfyrwyr y brifysgol,Seren. Pan raddiodd yn yr haf, enillodd y wobr am y perfformiad academaidd cyffredinol gorau yn yr ysgol, yn ogystal â'r wobr am y traethawd hir gorau sy'n seiliedig ar ymarfer ar gyfer Culture My Arts, parodi o raglenni celfyddydau a diwylliant, Radio 4, a chonfensiynau'r radio'n fwy cyffredinol, gan gyfuno'r dychanol â'r swreal. Cafodd ei ysgrifennu a'i gynhyrchu gan Finn, ac ef hefyd sy'n perfformio amrywiol rolau yn y cynhyrchiad, ynghyd â chyd-fyfyrwyr o'r ysgol. Fe'i comisiynwyd yn ebrwydd gan orsaf radio leol Finn, BBC Radio Stoke, a gomisiynodd ail raglen hefyd fel rhan o'u dathliadau 50 mlynedd.

 

Lisa Ware

Trumpocalypse: Media Coverage of 2016 US Presidential Election

Gwrandewch nawer

Graddiodd Lisa mewn Newyddiaduraeth ac Astudiaethau'r Cyfryngau gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf o'r ysgol yn 2018. Mae bellach yn astudio ar gyfer MA mewn Gwneud Ffilmiau ac yn ddiweddar bu'n gweithio ar ffilm Hollywood fawr, a gaiff ei rhyddhau fis Ebrill 2019 a chyfres newydd gyda HBO. Cafodd y ddwy ffilm eu ffilmio mewn lleoliadau yn yr ardal hon yn 2018. Mae Lisa wedi tyngu llw i gadw'r gyfrinach ynglŷn â manylion y cynyrchiadau hyn, ond cawn wybod mwy maes o law! Yn ystod ei hail flwyddyn, fel rhan o'r modiwl Radio: Theori ac Ymarfer, llwyddodd i gyfuno'r diddordeb sydd ganddi mewn newyddiaduraeth, gwleidyddiaeth a chynhyrchu ar gyfer y cyfryngau wrth gynhyrchu rhaglen fer a oedd yn archwilio sylw'r cyfryngau i etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau yn 2016. Lisa ei hun oedd cyflwynydd y rhaglen. Bu'n cyfweld dau fyfyriwr â oedd yn pleidleisio dros y Gweriniaethwyr sydd â barn wahanol i'r Arlywydd Trump, yn ogystal â'r Dr Gregory Frame, darlithydd o'r ysgol ac awdur The American President in Film and Television, a gyhoeddwyd yn 2018.